Main content

Sgoriau Anghyfarwydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gwyliwch y goliau! ‘Dan ni wedi clywed hyn sawl tro ar Ar y Marc !

Faint o sgoriau anghyffredin allwch chi eu cofio, neu wedi chwarae mewn gemau sydd wedi esgor ar ganlyniadau anghyffredin?

Rwy’n cofio chwarae i Flaenau Ffestiniog yn y chwedegau, mewn gem oddi cartref ym Mae Colwyn.

Ar ôl ugain munud, roedd y gêm drosodd, wel roedd hogia’ ‘Stiniog yn meddwl hynny gan ein bod ar y blaen o bedair gôl i ddim. Ond, och a gwau ! Colli ffocws, ta beth ! Aeth popeth i lawr allt.

Tarodd y Bae yn ôl gan sgorio wyth gwaith a churo’r gêm yn hollol gyfforddus o wyth gol i bedair!

Sgoriodd Manchester United wyth hefyd mewn gem yn erbyn Arsenal - a’u curo 8-2 yn 2011, tra llwyddodd Chelsea i daro wyth heibio Wigan yn 2009, ond roedd Tottenham wedi mynd un yn well y tymor blaenorol, eto yn erbyn Wigan, gan eu curo o naw i un.

Tra roedd tîm ieuenctid Wrecsam yn colli o dair gol i ddwy oddi cartref yng Nghaer yng Nghwpan Ieuenctid yr F.A (Lloegr) , roedd hyn yn ddim byd i'w gymharu â'r hyn a ddigwyddodd yn nhref Nuneaton yng nghanolbarth Lloegr yn yr un gystadleuaeth.

Roedd tîm ieuenctid Nuneaton Borough yn wynebu tîm ieuenctid Halesowen Town, ac ar ôl awr o chwarae, roedd y tîm cartref ar y blaen o saith gol i ddwy.

A dyna ni! Wel, dim yn hollol !!

Mewn rhyw hanner awr, a ddaeth ac atgofion o gwymp Blaenau Ffestiniog yn fyw o flaen fy llygaid, fe newidiodd popeth, mewn ysbeidiau anghredadwy, gan wneud i lwynog R.Williams Parry ers talwm swnio fel malwen !

Tarodd Halesowen yn ôl, a gyda dim ond pum munud yn weddill, roedd y sgôr yn 8-6 i Nuneaton.

Sgoriwyd gôl arall i Halesowen bedwar munud cyn y naw deg, ac yna cyrhaeddwyd yr amser ychwanegol am anafiadau ac eilyddio, ac o fewn y pedwar munud ychwanegol yma, sgoriodd yr ymwelwyr ddwywaith gan ennill o naw gol i wyth - a dyna’r un adeg y llwyddodd Halesowen i achub y blaen yn ystod y gêm ! - ie digwyddodd, darfu megis seren wib, a wn i ddim am unrhyw lwynog a allai fod wedi symud mor gyflym a chyfrwys a hyn.

Ond llongyfarchiadau i hogia Halesowen a'u cyfrwyster i greu hanes a chyffro mewn gem gyda sgôr hollol unigryw

Tybed allwch chi feddwl am gemau tebyg a sgoriau hollol annisgwyl ac anghyfarwydd?

Gadewch i ni wybod – [email protected]

Mwy o negeseuon

Blaenorol