Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Aled Hughes - Rhys Mwyn
cyd-destun - context
llwyddiant - success
cytundeb recordiau - recording contract
tref ddiwydiannol - industrial town
rhyddhau - to release
trwyddedu - to license
rhywsut, wedyn - somehow, later
yn awchu am - yearning for
yn sgil y cytundeb - as a result of the contract
yr un mor gyfarwydd - as familiar as
Mae cân y band Anrhefn 'Rhedeg i Paris ' yn un boblogiadd iawn. Cafodd hi ei recordio yn wreiddiol yn 1990 ac mi wnaeth y band Candelas fersiwn ohoni adeg Euros 2016 i gefnogi tîm pêl-droed Cymru. Ond ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha mi glywon ni bod fersiwn o'r gân i'w gael yn Siecoslafacia hefyd. Buodd Rhys Mwyn, oedd yn canu efo Anhrefn, yn esbonio wrth Aled be oedd cysylltiad y band â Siecoslafacia.
Bore Cothi - Bag Gareth
sylwebu - commentating
datgelu - to reveal
anferthol - huge
deuddydd - dau ddiwrnod
cit darlledu - broadcasting kit
pants - underpants/trôns
hongian - hanging
cawod - shower
diferu da dwr - dripping water
Rhys Mwyn oedd hwnna'n esbonio wrth Aled Hughes sut mae'r band Anhrefn mor boblogaidd yn Siecoslafacia. Wnaeth Gareth Rhys Owen ddim rhedeg i Paris, ond roedd o yno ar gyfer y Tour de France yn sylwebu ar ran S4C. Bore dydd Mawrth fo oedd yn cadw cwmni i Shan Cothi, ac mi fuodd o'n datgelu beth oedd yn y bag roedd o'n i gario o gwmpas Ffrainc.
Rhaglen Rhys Mwyn - Trysorau Cudd Caernarfon
cynnnwys - contents
Trysorau Cudd Caernarfon - Caernarfon's hidden treasures
bwriad - intention
golygu rhywbeth - to mean something
tynnu sylw - to draw attention
andros o lot - a huge amount
sbio - edrych
harddach - prettier
ymgais - an attempt
llefydd cyffredin - ordinary places
Gareth Rhys Owen yn dalgelu cynnwys bag y Tour de France i Shan Cothi. Mae'r awdures Angharad Price a'r ffotograffydd Richard Outram wedi cydweithio ar lyfr o'r enw 'Trysorau Cudd Caernarfon'. Mae Angharad wedi sgwennu darnau bach i fynd efo lluniau gwych Richard o'r dref. Gwasg Carreg Gwalch sydd wedi cyhoeddi'r llyfr a mi fuodd Angharad yn dweud wrth Rhys Mwyn beth oedd ei bwriad hi drwy sgwennu'r darnau yma.
Rhaglen Geraint Lloyd - Iago Llwyd Edwards
pencampwr - champion
yndw - ydw
milltir yr awr - miles per awr
faint bynnag - how ever much
ffurf cylch - in the form of a circle
pedwerydd - fourth
trwsio - repairing
cyflymach - faster
tymor nesa - next term
trwydded - license
Trysorau Cudd Caernarfon, llyfr arbennig iawn gan Angharad Price a Richard Outram. Sgwrs sy nesa rhwng Geraint Lloyd a phencampwr arbennig. Mae Iago Llwyd Edwards newydd ennill y British Quad Bike Championships. Ond 9 oed yn unig ydy o! Dyma Iago yn rhoi ychydig o'r hanes.
Post Cyntaf - Clare Mackintosh
annog - to encourage
ffuglen - fiction
ysbrydoliaeth - inspiration
cysylltiad agos - a close connection
cyd-weithio - to co-operate
archebion - orders
yn uniongyrchol - directly
dosbarthiad - distribution
byd-eang - worldwide
rhyngwladol - international
Dan ni'n mynd i glywed llawer iawn mwy am Iago yn y dyfodol dw i'n siwr. Pencampwr a dinm ond yn 9 oed - gwych ynde? Mae Clare Mackintosh wedi gwerthu cannoedd o filoedd o gopiau o'i nofelau sy'n cynnwys "I See you" ac "I Let you Go" . Mae hi'n byw yn y Bala erbyn hyn ac wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n gwneud ei gorau i annog pobl i ddefnyddio siopau llyfrau lleol, ac mi aeth Llyr Edwards draw i'r Bala i gwrdd â hi.
