Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 26 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Drama - Coffi



fy nyweddi - my fiancee

cwlwm - knot

dwy long ryfel - two war ships

cyflog mis - a month's salary

ast - bitch

cobennydd - pillow

syllu - to stare

gweddill fy mywyd - the rest of my life

ystrydeb gyfoglyd - a sick cliché

llwnc destun - a toast (as in a wedding)

"...clip bach o ddrama gafodd ei chlywed ar Radio Cymru nos Sul diwetha. Coffi oedd enw'r ddrama ac mi gafodd hi ei hysgrifennu gan Dewi Wyn Williams. Yr actorion sy'n cymryd rhan yn y ddrama ydy Llion Williams, Mair Rowlands, Catrin Arwel, Fflur Medi, John Ogwen, Maureen Rhys a Manon Wilkinson. Llais LLion Williams dan ni'n mynd i'w glywed rwan, ac mae ei gymeriad o newydd ffeindio allan bod ei gariad yn mynd i'w adael o. Ond pam mai 'Coffi' ydy enw'r ddrama? Mi ddylai hynny ddod yn amlwg i chi o'r clip yma..."

Straeon Bob Lliw - Ty Hafan



llawdriniaeth - surgery

trueni - pity

cynnal - to support

gweddio - to pray

crefyddol - religious

parchu - to respect 

"...dyn yn fan'na yn poeni'n arw achos fod o ddim yn cytuno efo dewis coffi rhywun arall. Wel dyna ni, drama oedd hi ynde? Dylai'r clip nesa o'r byd go iawn roi mwy o berpectif ar be ydy poen. Dyma i chi fam, Carys, yn disgrifio'r adeg pan gafodd hi wybod bod gan Rhydian, ei mab, diwmor anferth pan oedd o ond yn bum mis oed. Dyma Carys yn sôn am yr effaith ar y teulu o gael y newyddion ofnadwy yma..."



Geraint Lloyd - "Cwmni Drama Cudyll Coch"



para - to last

chwerthin - laughing

go lew - fairly well

i gymharu â - compared with

o brofiad - from experience

ar lwyfan - on stage

sbri - hwyl 

Carys yn fan'na yn rhannu profiadau trist iawn efo ni ar Straeon Bob LLiw dydd Llun diwetha. John Roberts oedd yn cyflwyno'r rhaglen honno, oedd yn bennaf am yr hosbis sy'n gwneud gwaith arbennig iawn efo plant bach, sef Ty Hafan. Clip cwbl wahanol rwan - mi gafodd Geraint Lloyd gwmni Robert Owen o Trap, Sir Gaerfyrddin, ddydd Mawrth ac mi ddysgon ni ychydig am hanes Cwmni Drama Cudyll Coch. Dyma i chi flas ar y sgwrs...



Daf a Caryl - Dr Who



cyfarwyddwr - director

creadur - creature

llinell - a line

y fraint - the privilege

dychmygu - imagining

anhygoel - incredible

ymarferion - rehearsals

yn gelfydd - skilfull

cyfnod - period

cyrff - bodies

"Wel dan ni wedi cael clywed am ddramâu doniol a drama am goffi, ond roedd yna un ddrama oedd yn cael mwy o sylw na'r un arall yr wythnos diwetha. Doctor Who ydy honno wrth gwrs, gan ei bod yn bumdeg oed yr wythnos diwetha ac roedd yna bennod arbennig yn cael ei dangos ar BBC nos Sadwrn. Mi ddaeth un sydd wedi actio yn y gyfres i gael sgwrs efo ni ar Daf a Caryl ddydd Iau. Yr actor John Ogwen oedd hwnnw, ac mi fuodd o'n chwarae rhan Bostok mewn dwy raglen ym Mil Naw Wyth Pump. Os dach chi'n ffan o'r Doctor ella byddwch chi'n gwybod mai Bostok wnaeth saethu llaw Davros, tad y Daleks."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Ffilm Class Of 92

Nesaf

The Auschwitz Goalkeeper