Main content

Blog Ar Y Marc: Ffilm Class Of 92

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn y nawdegau pan oeddwn yn hyfforddi tîm pêl droed ysgolion Cymru, cefais hanes am chwaraewyr addawol a oedd yn prysur ddatblygu yn nhîm ieuenctid Manchester United.

"Cadwch eich llygaid ar un Cymro yn enwedig" oedd y neges a gefais - "does neb wedi clywed amdano ar hyn o bryd gan fod Alex Ferguson am ei warchod nes bydd yn barod i chwarae i'r tîm cyntaf". Enw'r chwaraewr addawol yma oedd Ryan Giggs. Yr un oedd yn adrodd y stori oedd aelod arall o'r tîm ieuenctid yma, a oedd hefyd yn chwarae i dîm ysgolion Cymru'r adeg hynny, sef Robbie Savage.

Yr wythnos nesaf mae ffilm newydd yn cael ei gyhoeddi - "The Class of 92", sydd yn amlinellu stori a datblygiad chwech o chwaraewyr ifanc a ddaeth yn fyd enwog yn Old Trafford - chwaraewyr ifanc a gafodd eu gwawdio gan Alan Hansen ar un adeg wrth iddo honni nad yw'n bosibl ennill unrhyw beth efo tîm o blant! Ond llwyddo a wnaethant - y plant diniwed yma, sef David Beckham, Nicky Butt, Paul Scholes, Phil a Gary Neville a hefyd Ryan Giggs. Bydd y film yn cael ei dangos mewn rhai sinemâu ddydd Sul Rhagfyr 1af, ac ar gael ar DVD o ddydd Llun yr ail o Ragfyr.

Bydd y ffilm yn olrhain y cyfnod rhwng 1992 pan ymddangosodd Giggs yn nhîm United am y tro cyntaf ar yr ail o Fawrth, 1991, ar Old Trafford yn erbyn Everton, hyd at 1999, pan lwyddodd y tîm, a’r plant i dyfu i fod yn enwogion o fri, gan ennill Cwpan Ewrop yn Barceolna yn erbyn Bayern Munich.

Hanes chwech o fechgyn o gefndir dosbarth gweithiol ydi'r ffilm, bechgyn a lwyddodd i wireddu eu breuddwydion, a breuddwyd pob un arall oedd am fod yn chwaraewyr pêl droed, ond heb ddod yn agos i gyflawni'r un gamp. Ac ie, fe allwch gynnwys Robbie Savage yn y garfan yna. Ceir ymddangosiad gan Savage yn y ffilm, ynghyd a George Switzer, Andy Noone and Raphael Burke.

Llwyddodd y Cymro o Wersyllt gerllaw Wrecsam i ennill bywoliaeth ac enwogrwydd o fewn timau eraill yn Uwch gynghrair Lloegr, yn ogystal ag yn rhyngwladol, ond ddim i'r un graddau a'r chwech arall. Cafodd Switzer ei ryddhau gan ymuno a Darlington am dymor cyn chwarae, fel Noone, i dimau lleol yn ardal Manceinion hyd at heddiw. Collodd Burke ddiddordeb yn y gêm ar ôl cael ei ryddhau.

Ymddengys fod y chwech wedi bod yn barod iawn i gyfrannu at wneud y ffilm, gan ei fod nid yn unig yn dangos a dathlu eu llwyddiant, ond hefyd yn dangos pa mor agos y maent wedi tyfu a pharhau fel ffrindiau wrth gyd fyw a chyd ddatblygu ochr yn ochor a'i gilydd mewn amgylchedd mor gystadleuol.

Cawn weld hefyd sut y cyfrannodd y chwaraewyr yma i newid delwedd dinas Manceinion drwy eu llwyddiant wedi iddi, yn ôl barn y cyfarwyddwr ffilmiau, Danny Boyle, gael ei adael i farw gan lywodraeth Margaret Thatcher.

Ffilm felly y dylai pob cefnogwr pêl droed ei weld - ac nid rhywbeth wedi ei gyfyngu i gefnogwyr Manchester United mohono. Ffilm yw hon sydd yn dangos sut y daeth breuddwydion bechgyn ifanc yn fyw a sut y daeth dinas gyfan i newid ei delwedd yn sgil eu llwyddiant.

Wedi’r cwbl fe brofodd Robbie Savage hyd yn oed ar gychwyn y nawdegau ei fod yn dipyn o pundit pêl droed, a chyn gorfoleddu yn ormodol am ffilm sy'n gynnwys Giggs ac eraill, mae gan y byd celfyddydol Cymreig gerdd gan y prifardd Tudur Dylan Jones yn ei ddetholiad ‘Canu Clod y Gamp’ - yn cyfeirio ar gyrhaeddiad Ryan Giggs:-

“Yn sŵn y ffans yn y ffydd

ym Man. U. mae un newydd

i’w addoli’n ddiflino

a chanu i'w allu o,

ac yn llawnder y teras,

ym merw’r hwyl, mae rhyw ias

newydd i bawb yn ddi-ball;

y stori fod Best arall”

Ie wir, a diolch i Robbie fe allai innau hefyd fod yn fardd:-

“Wele cawsom yn Old Trafford

Cyfaill gwerthfawroca ‘rioed

Ddarfu i Robbie a’i gyfeillion

Ddweud amdano cyn ei ddod:

Ryan yw: Cymro yw

Ffrind a phrynwr ffans Man. U”.

Ie, fe allai ragweld y byddai rhai cefnogwyr timau eraill yn wfftio'r syniad o werthfawrogi'r ffilm, ond dyna fyd cyfyng rhai o gefnogwyr cyfoes y gêm y dyddiau yma. Eu colled hwy fydd peidio â mynychu'r sinema oherwydd mympwy hunanol.

Mae'r gêm yn llawer ehangach ac yn llawer mwy ei apêl na chenfigen blwyfol. Ewch ati a mwynhewch y profiad.

Pwy a ŵyr, hwyrach y dewch chithau yn fardd yn sgil y profiad !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 26 Tachwedd 2013