Main content

Y Rhyl v Cei Cona

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Y llynedd cododd pryder ynglŷn â maint torfeydd( neu ddiffyg torfeydd) mewn gemau yn Uwch gynghrair Cymru gan fod y niferoedd yn iselhau yn brysur. Roedd y drefn newydd o rannu'r gynghrair yn ddwy adran ar gyfer ail hanner y tymor wedi dod amheuaeth i rai, ond doedd hyn ddim yn farn unfrydol.

Eleni, ceir darlun llawer mwy positif gyda thorfeydd yn gwella mewn llawer man, a chynnwrf ynglŷn â phwy fydd ar frig y gynghrair a hefyd yn sicrhau lle yn y chwech uchaf yn prysur ddatblygu.

Y Sul diwethaf, fe es draw i Stadiwm Corbett Sports i weld y gêm rhwng y Rhyl a Chei Cona. Y peth cyntaf a nodwyd oedd maint y dorf, a hynny mewn gem a gynhaliwyd yn fuan ar ôl amser cinio, sef hanner awr wedi un. Gwelwyd chwe chant wyth deg a naw yn y stadiwm wrth i Rhyl ennill eu hail gêm gartref y tymor yma, diolch i ddau gol gan eu blaenwr Jason Oswell. Cafwyd ymateb gan gei Connah yn hwyr yn ail hanner Diolch i Gary O’Toole, ond rhy ychydig yn rhy hwyr oedd hyn gyda’r Rhyl yn haeddu buddugoliaeth agos gan eu codi i'r chweched safle.

Ychydig o drafferthion i'r tîm o Lannau Dyfrdwy fodd bynnag gan mai dyma oedd y bumed gêm yn olynol iddynt golli, a byddant angen gwell os am barhau ar eu cais i ddringo yn uwch na’r nawfed safle . Fodd bynnag fe all pethau newid yn sydyn y penwythnos yma gyda'r Rhyl yn teithio i Aberystwyth nos Wener, a Bangor yn wynebu'r Drenewydd ddydd Sadwrn ymysg y gemau allweddol.

Mae’r Seintiau Newydd, Airbus a Chaerfyrddin yn arwain y ffordd ar y brig, mae’r frwydr am y chweched safle yn poethi gyda’r Drenewydd, Bangor, y Rhyl, Aberystwyth, Prestatyn a Chei Connah yn cystadlu, a dim ond pum pwynt yn eu gwahanu.

Gydag wyth gem ar ôl yn hanner cyntaf y tymor a cyn y gwahaniad (a naw i’r Rhyl ac Aberystwyth) mae’r frwydr yn siŵr o barhau dros y Nadolig.

Un pwynt i'w nodi fodd bynnag ar fy ymweliad a’r Rhyl oedd nodiadau yn y rhaglen yn gofidio nad yw’r Uwch Gynghrair yn cael sylw teilwng yn y cyfryngau yn enwedig gan y BBC.

Dim son chwaith fod gan Y Cymro golofn a newyddion wythnosol ar yr Uwch Gynghrair, nac ychwaith fod sylw cyson yn cael ei roi ar raglenni Radio Cymru megis “Ar y Marc” a “Champ Lawn” yn ogystal â thrafodaeth ar bynciau yn ymwneud a'r Uwch Gynghrair ar nos Lun rhwng saith a naw o’r gloch ar Radio Wales gyda Marc Lloyd Williams .

Yn y cyfamser, mae gan Marc hefyd erthygl yng nghylchgrawn Cymdeithas Bel Droed Cymru, Y Llais, ar yr Uwch Gynghrair y mis yma.

Cyfyng ydi byd y cyfryngau felly i rai pobol - ymddengys bydd angen ehangu gorwelion o fewn rhai o glybiau Uwch Gynghrair Cymru cyn beirniadu!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - 12 Tachwedd 2013

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: 20 Tachwedd 2013