Main content

Pigion i Ddysgwyr - 12 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf.

Derfel a Caryl - Iestyn Jones

archeologwr - archeologist

cof cenedl - national memory

ymdopi - to cope

dihiryn - villain

deniadol - attractive

carchar - prison

cyhyd â - as long as

yn gyfarwydd â - familiar with

doethuriaeth - doctorate

canol oesoedd cynnar - early middle ages

"...archeolegwr enwog. Wel does na ddim llawer o'r rheini o gwmpas nagoes? Ond nid fel archeolegwr mae Iestyn Jones yn enwog ond fel yr actor oedd yn cymryd rhan Ieuan Griffiths yn Pobol y Cwm. Buodd o'n actio rhan Ieuan am undeg wyth o flynyddoedd. Pam felly ei fod o'n sôn am archeoleg efo Derfel a Caryl ddydd Mawrth? Dyma Iestyn yn esbonio popeth..."



Straeon Bob Lliw - ceir clasurol



shwd gimint (gymaint) - so much

pwyllgor - committee

hala mas - anfon allan

dodi - rhoi

sbri - hwyl

ymuno â - to join

meddwl y byd o - to think the world of

rhwd - rust

rhwto - rhwbio

"Derfel yn cadw sedd Dafydd yn gynnes yn fan'na ac Iestyn yn sôn am donnau mawr Aberystwyth. Cawn ni glywed mwy o hynny yn nes ymlaen. Ond rwan dan ni'n mynd i gael clip bach llawer mwy sydêt. Dim mwd yr archeolwr, na thonnau gwyllt na chynghorwyr drwg. Na, steddwch yn ôl a gwandewch ar Maryl Bradley a'i ffrindiau yn sôn am eu diddordeb mawr nhw mewn ceir clasurol. Geraint Lloyd oedd yn sgwrsio efo nhw ar raglen Straeon Bob Lliw. Mwynhewch y cipolwg yma ar fyd bach arall... "



Cofio - Seren y Gogledd



cylchgrawn - magazine

Gwlad yr Iâ - Iceland

lluoedd arfog - armed forces

cyfraniadau - contributions

cyfnodolion - journals

cylchrediad - circulation

gwerthfawrogi - appreciate

is-lywyddion - vice-presidents

dieithriaid - strangers

cyntefig - primitive

"Dan ni'n mynd i aros efo hen bethau rwan, nid ceir y tro yma ond cylchgrawn. Taswn i'n gofyn i chi enwi cylchrawn Cymraeg dw i'n siwr na fasech chi'n enwi 'Seren y Gogledd' na fasech? Faswn i ddim yn disgwyl i chi wneud mewn gwirionedd gan mai cylchgrawn Cymraeg Gwlad yr Iâ oedd 'Seren y Gogledd'. Ia, dyna ddwedes i, Gwlad yr Iâ! Dydy o ddim i'w gael rwan cofiwch - cylchgrawn oedd hwn i'r lluoedd arfog oedd yng Ngwlad yr Iâ adeg y rhyfel. Ar 'Cofio' ddydd Sadwrn clywon ni hen glip o Harri Gwyn yn siarad efo E H Williams am y cylchgrawn"



Stiwdio - Ty'r Cyffredin



eitha brawychus - quite frightening

cymryd yn ganiataol - taking for granted

Ty'r Arglwyddi - House of Lords

cyfweliadau - interviews

cerfluniau - sculptures

dim modd osgoi - no way of avoiding

efydd - bronze

haniaethol - abstract

dehongli - to interpret

atgyweirio - to repair

"Diddorol ynde? ... Tasech chi eisiau clywed mwy o'r clipiau yma cerwch i wefan www.bbc.co.uk/radiocymru a chlicio ar dudalen Cofio. Dan ni wedi hen arfer, yndo, i weld eitemau newyddion yn dod o'r senedd yn Llundain, efo'r gohebwyr ar y lawnt, neu'r Green, y tu allan i'r Ty Cyffredin yn torri newyddion brys i ni. Faint ohonoch chi sydd wedi sylwi ar y celf sydd i'w weld yn y cefndir? Ar stiwdio ddydd Iau buodd gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr, yn sgwrsio efo Llyr Gwyn Lewis am gelf Ty’r Cyffredin a sôn ychydig am rhai o’i hoff ddarnau hi." 

 

Post Prynhawn - Stormydd



tywod - sand

troedfeddi - feet (mesur)

sgubo - sweeping

anferth - huge

dim niwed - no harm

llathenni - yards(mesur)

yn drwch - thick

wedi cael ei chwalu - destroyed

yn ei hanterth - at its peak

difrod - damage

"Pum miliwn o bunnoedd am gerflun? Meddyliwch y ffys tasai arian fel'na yn cael ei wario yn ein senedd ni yng Nghaerdydd! Mi glywon ni Iestyn Jones gynna' fach yn sôn am donnau Aberystwyth. Weloch chi rai o'r lluniau o'r storm wythnos diwetha? Anhygoel!. Mi gaeth y ffotograffydd Keith Morris ei ddal yng nghanol y storm wrth iddo fo drio tynnu lluniau o'r tonnau enfawr. Mi gafodd y gohebydd Craig Duggen sgwrs efo fo ar Post Prynhawn ddydd Llun. Mi glywn ni hefyd gan David Evans oedd yn aros mewn carafan yn yr ardal yn ystod y storm. Os dach chi eisiau gweld video o’r don yn taro'r prom cerwch i wefan newyddion BBC Cymru. Dyma Keith Morris i gychwyn..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Merch yn dyfarnu

Nesaf

Y Rhyl v Cei Cona