Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 25 Mawrth 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Caryl - Y gwanwyn

awyr iach - fresh air

cyflwr meddygol - medical condition

cyfyngedig - limited

mwgwd - mask

treftadaeth diwylliannol - cultural heritage

chwedlau - fables

budd - benefit

cyd-destun - context

tirlun - landscape

cymhelliad ychwanegol - additional incentive

"... rhaglen newydd Caryl Parry Jones, sydd i'w chlywed bob dydd Iau am hanner dydd. Rhaglen ydy hon lle mae pobl ddiddorol yn dod i mewn i'r stiwdio i siarad am bob mathau o bethau. Ddydd Iau diwetha roedd Caryl yn siarad am y gwanwyn efo’r deietegydd Gwawr James, yr arbenigwr ffitrwydd Trystan Bevan a’r naturiaethwr Twm Elias. Dyma'r tri yn sgwrsio am fanteision awyr iach..."

Dylan Jones - Mel Williams

casglwr - collector

diflannu - to disappear

bathu yn anghyfreithlon - illegally minting (coins)

hel - to collect

cyfandirol - continental

ymerawdwr - emperor

cydnabod - to acknowledge

diffyg moesau - lack of morals

arwerthiant - a sale

llwyth mwya grymus - the most powerful tribe

"Caryl yn fan'na yn siarad efo tri o bobl iach iawn iawn, Gwawr James, Trystan Bevan a Twm Elias. Glywoch chi'r newyddion wythnos diwetha y bydd yna ddarn punt newydd sbon? Bydd gan y darn newydd ddeuddeg ochr iddo - er, yr un faint byddwch chi'n medru prynu efo fo mae'n debyg! Mae Mel Williams o Lanuwchllyn yn gasglwr, ac yn un sydd yn gwybod llawer iawn am arian o wahanol wledydd. Mi gafodd o sgwrs ddydd Mercher efo Dylan Jones am y darn punt newydd, ond yn ystod y sgwrs gaethon ni wybod am ddarnau didddorol o arian sydd yng nghasgliad Mel ei hunan..."

Shân Cothi - Manon Gravelle

arwr - hero

galar - bereavement

dioddef - to suffer

tyfu lan - to grow up

TGAU - GCSE

penwythnos preswyl - residential weekend

cripad - to crawl

hunllef - nightmare

llefain - to cry

dros ben llestri (idiom) - over the top

"Mel Williams yn fan'na yn sgwrsio efo Dylan Jones am ei gasgliad diddorol o arian. Mae hi'n anodd credu bod chwe blynedd wedi bod ers i Ray Gravelle farw. Roedd Ray yn arwr i lawer iawn o bobl, nid yn unig am ei gampau ar y cae rygbi i Gymru ac i Lanelli, ond am ei gariad mawr at Gymru a'r Gymraeg. Ei deulu wrth gwrs sydd yn teimlo'r golled fwya ar ei ôl, a dydd Mercher mi glywon ni ferch Ray, Manon Gravelle yn siarad efo Shan Cothi am sut y mae'r teulu wedi delio efo'r galar..."

Shan Cothi - Côr Meibion Y Rhos

ymdopi - to cope

rhyddhau - to release

cyfnod cynnar - early period

arweinydd y côr - choir master

cysylltiad - connection

perchen - owner

cerddorol - musical

ambell i gyfansoddwr - a few composers

o fri - renowned

hwb - a boost

"Dyna i chi sgwrs onest iawn gan Manon am rai o'r ffyrdd y buodd teulu Ray Gravelle yn ceisio ymdopi efo'r golled ar ei ôl. Arhoswn ni efo Shan Cothi am y clip ola heddiw. Dan ni'n mynd i glywed sgwrs rhyngddi hi â John Tudor Davies, sydd yn aelod o Gôr Meibion y Rhos. Mae'r côr enwog hwn o bentref Rhosllanerchrugog ger Wrecsam wedi teithio'r byd yn rhoi cyngherddau i filoedd o bobl. Maen nhw hefyd wedi rhyddhau sawl albwm. Dyma John yn cofio sut y daethon nhw i gysylltiad yn gynta gyda chwmni recordio D’elise yn Llundain."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Everton v Caerdydd

Nesaf

BBC Radio Cymru Am Gyflogi Bardd Preswyl Bob Mis