Es i draw i Old Trafford amser cinio’r Sadwrn diwethaf i weld Manchester United yn wynebu Reading yng nghwpan Lloegr. Roedd y gic gyntaf am 12.30, y gêm yn fyw ar deledu lloeren a llond stadiwm o gefnogwyr yno yn cefnogi eu timau.
Ar y dydd Sul penderfynais edrych ar gêm Caerdydd yn erbyn Fulham, gyda’r gic gyntaf am 11.30, ond allai’r gêm gwpan yma wneud dim gwell na denu torf o ddim ond 5,199.
Bu llawer o resymau am hyn . Amser gwael i gynnal gem, y gêm yn fyw ar y teledu ! Ond, tyrfa o ddim ond tua phum mil?
Yn y prynhawn, llwyddodd tyrfa enfawr i gyrraedd Anfield i weld Lerpwl yn wynebu Plymouth Argyle o Adran Dau, gem na fyddai ar yr wyneb yn cael ei hystyried y fwyaf deniadol.
Be’ felly mae’r ystadegau hyn yn ei ddweud am y diddordeb (neu ddiffyg diddordeb) sydd yn ymddangos yng Nghaerdydd yng Nghwpan Lloegr?
Wrth gwrs, mae’n bwysicach aros yn y bencampwriaeth, ac fe ellir deall hyn yn iawn.
Caiff eraill ddweud nad yw’r gwpan mwyach yn denu diddordeb fel yn y gorffennol, ac nad ydi rhamant y gorffennol bellach yn bodoli, er mai anodd oedd credu hyn yn Old Trafford, a Lerpwl
(a hefyd yn Chelsea a welodd dorf sylweddol yn eu gem yn erbyn Peterborough).
Ydi rhamant gemau cwpan wedi diflannu’n gyfan gwbl o Gaerdydd ?
Anodd dweud yng nghyd-destun amser y gêm, ond fe wnaeth y sefyllfa yma i mi feddwl am sefyllfa eithaf unigryw a fyddai’n cynnig cystadleuaeth amgen i Gaerdydd os nad oes diddordeb mwyach yng Nghwpan Lloegr.
Tybed a ddylai Caerdydd ystyried rhoi cais i mewn i gystadlu yng Nghwpan Cymru'r tymor nesaf ac anghofio am Gwpan Lloegr, o leiaf am un tymor?
Petai Caerdydd yn ennill Cwpan Cymru fe fyddai hyn yn gallu cynnig llwybr i’r clwb chwarae ar lwyfan Ewrop, a gyda siawns golew i ennill y gwpan yma, fe fyddant yn dod yn gymwys i gystadlu yng Nghynghrair Ewropa'r tymor dilynol.
Felly, petai hyn yn bosibl, ac yn sgil y diffyg diddordeb honedig sydd yn ymddangos yng Nghwpan Lloegr yn y brif ddinas, tybed a fyddai cystadlu yng Nghwpan Cymru yn rhywbeth gwerth ei ystyried?
Efallai y gellir gweld pob math o sefyllfaoedd yn codi a fyddai'n gwneud hyn yn anodd. Er enghraifft pan benderfynodd Wrecsam gystadlu ychydig o flynyddoedd yn ôl, a gorfod wynebu Airbus, fe fynnodd y tîm o Frychdyn y dylid chwarae, yn ôl eu hawl, ar y dydd Sadwrn penodedig, gan orfodi Wrecsam i roi eu hail dim ar y cae. Llwyddodd Airbus i'w trechu, ond rwyf o'r farn y gall Caerdydd, petai'r sefyllfa yma yn cael ei ail adrodd, roi dau dîm mewn dwy gystadleuaeth ar yr un dydd, ac y gall yr ail dîm guro'r rhan fwyaf o'r timau a allant eu hwynebu yng Nghwpan Cymru.
Yna, petaent yn ennill yr hawl i chwarae yng Nghynghrair Ewropa, i gynrychioli Cymru, a hynny ar nos Iau, a fyddai awdurdodau Cynghrair Lloegr yn barod i symud eu gem ddilynol o ddydd Sadwrn i ddydd Sul fel sy’n digwydd ar hyn o bryd i'r timau hynny sy'n cynrychioli Lloegr yng Nghynghrair Ewropa?
Wn i ddim be fyddai'r sefyllfa, a hwyrach mai breuddwyd ffôl yw hyn i gyd, ond heb eu hystyried, yna fe fyddai dim yn digwydd fodd bynnag.
Felly, a oes yna le i Gaerdydd feddwl y gallant anghofio Cwpan Lloegr a rhoi cynnig ar geisio ennill Cwpan Cymru, a thrwy hyn ennill eu lle i gystadlu yn erbyn timau Ewrop?
Gwerth ei ystyried efallai? Dim ond gofyn!
