Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 20fed o Dachwedd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - Celyn

Yr Wyddfa - Snowdon

ymgyrch - campaign

Plant Mewn Angen - Children in Need

elusen - charity

creision - crisps

yr un cyflwr - the same condition

pethau ymarferol - practical things

cymryd yn ganiataol - to take for granted

yn gyfarwydd â - familiar with

cyfrannu - to contribute

Buodd Aled Hughes yn dringo'r Wyddfa yr wythnos diwetha, nid unwaith yn unig ond pum gwaith, er mwyn codi arian i ymgyrch yr elusen Plant Mewn Angen. Yn ystod yr wythnos buodd Aled yn siarad gyda nifer o'r plant sydd wedi cael help gan Plant Mewn Angen yn y gorffennol. Un o'r rheini oedd Celyn sy'n chwech oed ac sy'n byw yng Nghastell Newydd Emlyn. Cafodd Aled sgwrs gyda Celyn a'i mam Llinos a dyma i chi'r ddwy yn sôn am y cymorth maen nhw wedi ei gael gan un o'r elusennau sydd wedi cael arian Plant Mewn Angen sef Bopath.



Geraint Lloyd - Llyfrau Llafar Cymru.

Llyfrau Llafar Cymru. - Talking Books Wales

hollol ddall - completely blind

deugeinfed penblwydd - 40th birthday

cryno ddisgiau - CD's

storïau byrion - short stories

barddoniaeth - poetry

hunangofiannau - autobiographies

argraffu - to print

gwirfoddolwyr - volunteers

safon uchel - high standard

Ac mi gawn ni glywed ychydig mwy am Aled yn dringo'r Wyddfa nes ymlaen. Rhian Evans wnaeth sefydlu Llyfrau Llafar Cymru hanner cant o flynyddoedd yn ôl. Roedd Rhian yn gwybod ei bod yn mynd i golli ei golwg rhyw ddydd ac mae hi'n hollol ddall erbyn hyn. Roedd hi am wneud rhywbeth i helpu pobl ddall i fedru darllen llyfrau Cymraeg a dyna'n union beth mae Llyfrau Llafar Cymru yn llwyddo i'w wneud. Dyma Rhian yn rhoi ychydig o hanes sefydlu y prosiect wrth Geraint Lloyd.



Daf a Caryl - Mari Wyn Williams

gwesteion - guests

yn hytrach - rather

cymeriad a hanner - a character and a half

cyfarth - barking

Gardd Fôn - a pub in Felinheli

syniad call - a wise idea

Braf clywed am waith da a phwysig Llyfrau Llafar Cymru yn fan'na gan Rhian Evans. Cantores Opera ydy Mari Wyn Williams. Mae hi wedi canu yn nhai Opera mwya'r byd ac yr wythnos yma mae hi'n canu yn Nhy Opera enwog Seville. Hi oedd un o westeion Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 ddydd Mercher ond nid yna i siarad am ei chanu ei hun oedd Mari ond yn hytrach am ganu ei chi Jack Russell.



Rhaglen Ifan Evans - Rhian Jones

y gyfres - the series

y rhan - the part

Coleg Cerdd a Drama - College of Music and Drama

ymarfer dysgu - teaching practice

cynhyrchydd - producer

chwarae teg iddi hi - fair play to her

wnaeth hi fodloni - she was prepared

mo'yn - eisiau

paid â becso - don't worry

Wel mae 'na sawl deuawd i'w cael mewn operâu on'd oes? Falle gwelwn ni Mari a Bertie gyda'i gilydd ar un o'r llwyfannau mawr rhyw ddydd! Dros yr wythnosau diwetha mae Ifan Evans wedi bod yn sgwrsio gydag actoresau sydd wedi cymryd rhan dros y blynyddoedd yn Pobol y Cwm. Wythnos diwetha Rhian Jones, oedd yn arfer actio rhan Karen yn y gyfres, ddaeth mewn i gael sgwrs. Dyma hi'n esbonio sut gafodd hi'r rhan yn y lle cynta.



Rhaglen Ifan Evans - Junior Eurovision

cynrychioli - to represent

Gwlad Pwyl - Poland

chwifio'r faner - flying the flag

rhan fwyaf - most

ffrindiau oes - lifelong friends

amserlen - timetable

ymarfer - to rehearse

llwyfan - stage

ar y cyd - together (ensemble)

calonnau ...yn curo - hearts beating

Rhian Jones yn sôn wrth Ifan Evans sut gafodd hi'r swydd actio yn Pobol y Cwm. Trystan Elis Morris oedd yn cyflwyno rhaglen Ifan ddydd Mercher a dyma i chi flas ar sgwrs gafodd e gydag Erin Mai o Lanrwst. Erin fydd yn cyrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision yng Ngwlad Pwyl mewn pythefnos.Ydy hi'n edrych ymlaen tybed?



Aled Hughes - Plant Mewn Angen

er gwaetha - in spite of

codi'r ysbryd - raising the spirits

uffernol - hellish

ar dy bengliniau - on your knees

llithro - to slip

droeon - many times

cenllysg - hail

teulu o grancod - a family of crabs

amodau - conditions

amddiffyn - to defend

A phob lwc i Erin yng Ngwlad Pwyl on'd ife? Fel clywon ni ar ddechrau'r podlediad, bwriad Aled Hughes oedd dringo'r Wyddfa bum gwaith wythnos diwetha. Buodd e'n anffodus iawn gyda'r tywydd, roedd eira, rhew a gwynt wedi ei gwneud yn anodd iawn iddo fe i gwblhau'r dasg. Ond mi lwyddodd e er gwaetha'r tywydd a thrwy hynny codi llawer iawn o arian i ymgyrch Plant Mewn Angen. Dyma fe ar y mynydd ar y dydd Mawrth yng nghanol y tywydd ofnadwy.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cymru, Golff, Madrid!