Main content

Azerbaijan v Cymru - Rowndiau Rhagbrofol Ewro 2020

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cadwch o’n syml - dwy fuddugoliaeth ac yna fe fydd yr Ewros yn galw, ond ar yr amod fod Slofacia yn methu a churo Croatia!.

Ia, tydi dilyn Cymru ddim yn beth hawdd! Gawn ni boeni am be arall ar ôl nos Sadwrn petai Cymru’n baglu'n Baku a Slofacia’n ennill.

Ar hyn o bryd dwi’n hollol ffyddiog y daw Cymru i Gaerdydd nos Fawrth wedi llwyddo i gasglu’r tri phwynt yn Azerbaijan heno.

Ond pwy fydd yn y tîm?

Harry Wilson yng nghanol y cae gydag Aaron Ramsey a Gareth Bale, ond a ydi Bale yn ffit ac iach? Cawn weld!

Y gêm ddiwethaf iddo chwarae ynddi oedd honno i Gymru yn erbyn Croatia ym mis Hydref.

Ac os dyma fydd canol y cae - pwy fydd yn cymryd y ciciau rhydd? Bale neu Wilson.

Un o gryfderau’r gŵr o Gorwen ydi sgorio ciciau rhydd, a fel mae Wilson wedi ei ddangos i Bournemouth yn barod y tymor hwn mae o wedi tanio heb os, tra mae yno ar fenthyg yno o Lerpwl.

Ond ydach chi neu unrhyw un arall yn barod i ddweud wrth Gareth Bale mai darparu'r ffordd am un i'w ddilyn oedd Bale, ac mai swydd Wilson bellach ydi cymryd y ciciau rhydd!

Ar y llaw arall, hwyrach y bydd Azerbaijan mor wyliadwrus rhag ildio ciciau rhydd o gwmpas ochrau'r cwrt cosbi fel na fyddant yn troseddu o gwbl!

Ond, yn fwy tebygol mae’n debyg y byddant y mynd ati i barcio’r bws, trol a lori o flaen y gôl, gyda gwehilion o boblach amddiffynnol yr Azeris yn ceisio llenwi cilcyn o ddaear yn eu cilfach gefn , er mwyn lleihau pob posibilrwydd o ildio goliau! Os felly, ymysg y pentwr amddiffynnol , efallai mai cael cic rydd neu ddau fydd ein hunig achubiaeth!

Ond os am ysbrydoliaeth cyn y ddwy gêm nesa , fe ymddangosodd cyfweliad gan Aaron Ramsey ar wefannau cymdeithasol F.A. Cymru yn Gymraeg, gydag Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru, yn gofyn y cwestiynau. Mae’n hapus i fod nol efo Cymru gan ddatgan yn obeithiol fod yna ddal gyfle i Gymru gyrraedd yr Ewros. Mae’n hel atgofion am y tro diwethaf iddo wynebu Azerbaijan gyda Chymru, a’r tro hwnnw gyda John Toshack yn reolwr, a hynny nol yn 2009 wrth geisio cymhwyso i gyrraedd Cwpan Y Byd yn Ne Affrica yn 2010. Mae’n rhagweld y bydd hi’n gêm ddigon tebyg, ond fel y clywch chi Ramsey’n dweud, “mae’r tîm yn gwybod be sydd raid i ni wneud i ennill!”.

Llongyfarchiadau mawr i Aaron Ramsey am gyfweliad campus yn y Gymraeg, a phob dymuniad da iddo ef a gweddill y chwaraewyr wrth i’r ymgyrch i gyrraedd Ewro 2020 dynnu tua’i therfyn.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Canu yn Old Trafford

Nesaf