Felly, be nesa’? ‘Ffansi gwerthu’r job lot am symthing i rywun?’ - ddim os mai Trefor Lloyd Hughes ydi’ch enw!
Erbyn heddiw rydym yn ymwybodol fod yna bymtheg o gynghorwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn anfodlon trin a thrafod mater a oedd yn siŵr o godi nyth cacwn ar draws Cymru gyfan! Dangosodd pymtheg o gynghorwyr nad yw trefn ddemocrataidd gyfoes yn bodoli o fewn eu meddylfryd hwy wrth iddynt bleidleisio i hyd yn oed beidio ag ystyried ffeithiau a thystiolaeth berthnasol (hyn i gyd i drafod ffawd a dyfodol clybiau'r Barri a Llanelli) a fyddai yn agor y drws i bwyso a mesur yn deg cyn dod i benderfyniad.
Daeth y mater i sylw pawb ganol wythnos wrth i Lywydd y Gymdeithas, Trefor Lloyd Hughes alw cyfarfod arbennig o’r pwyllgor i drafod y dystiolaeth, ac er bod hyn yn hollol gyfansoddiadol, ac wedi dilyn pob canllaw, doedd y cynnig yma i roi ystyriaeth i achos dau glwb a wnaeth cymaint fel llysgenhadon i'r Gymdeithas ddim yn ddigon.
Pwy felly ydi'r pymtheng dihiryn? Gan mai pleidlais gudd mewn ystafell ddirgel oedd hon. Felly gan fod popeth yn ddirgel, alla’ i fel pob un arall ond dyfalu!
Tybed a oedd yna rywun yn ceisio dial ar rywun arall am rywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol?
Tybed a fyddai parhad y Barri (a Llanelli) yn cael eu hystyried fel bygythiad i fodolaeth timau de Cymru, ac mai'r peth gorau fyddai cael gwared â'r bygythiad?
Tybed a oedd yna benderfyniad wedi ei wneud yn unfrydol, mewn ystafell ddirgel arall, o flaen llaw gan y pymtheg yma, i wrthwynebu unrhyw beth a fyddai’r Llywydd, y gymdeithas neu unrhyw aelod arall o’r cyngor yn ceisio ei wneud?
W’n i ddim yr ateb i unrhyw un o rhain, ond tra mae distawrwydd ac amharodrwydd i ddod allan yn gyhoeddus, allai wneud dim mwy na dyfalu! Amser felly i'r pymtheg sefyll i fyny a rhoi eu rhesymau dros eu gweithred?
Daeth yn glir fore Sadwrn ar raglen Ar y Marc fod Trefor Lloyd Hughes ac eraill wrthi'n brysur yn gweithio tuag at sicrhau a sefydlu gwelliannau o fewn trefn y Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru, a bydd aros mawr am ddatganiad o fewn ryw fis am eu gwaith.
Tybed a fydd yna wrthwynebiad arall i'r camau sydd yn cael eu cymryd i symud pethau ymlaen? Bygythiad arall i fuddiannau a diddordebau'r pymtheg yn amharu ar hygrededd a datblygiad y Gymdeithas unwaith eto efallai.
Tybed a oes yna reolau o fewn y Gymdeithas a fyddai yn berthnasol i alw'r pymtheg yma o flaen y cyngor a'r prif weithredwyr i egluro eu hymddygiad a'u gweithrediad wrth-ddemocrataidd ? Credaf hefyd fod yna achos i’w cyhuddo o ddod ac anfri ar y gêm! Wedi'r cwbl, mae llawer i beldroediwr wedi gorfod sefyll o flaen pwyllgor disgyblu am lawer llai!
Rhaid hefyd bod yn wyliadwrus a pheidio ag erfyn yn ormodol ar ein haelodau seneddol . Mae rheolau llym FIFA ac UEFA yn rhwystro gwleidyddion rhag ymyrryd mewn materion pêl-droed o fewn eu gwlad. Bu bron i Wlad Groeg fynd i drafferthion enfawr yn ddiweddar oherwydd ymyrraeth o'r fath yma.
Ond mae un peth yn amlwg. Mae penderfyniad Trefor Lloyd Hughes i barhau fel Llywydd wedi rhoi'r hwb ymlaen i‘r Gymdeithas ddod yn fwy atebol, a bod angen trefn lywodraethol lawer cliriach a thryloyw o hyn ymlaen.
Mae’r amser wedi dod i chwaraewyr, swyddogion, cefnogwyr ac aelodau o’r gymdeithas ei hun gefnogi ymdrechion ein Llywydd. Disgwyliaf hefyd i'r aelodau hynny a oedd mor barod i gefnogi’r drafodaeth nas cynhaliwyd yr wythnos diwethaf, i roi cefnogaeth i ymdrechion Trefor Lloyd Hughes at arwain Cymru tuag at gyrraedd a chynnal safonau gwell o weinyddiaeth, a safonau tryloyw o gynnal y gymdeithas ac atebolrwydd y cynghorwyr.
Hwyrach fodd bynnag fod yr amser wedi dod i bymtheng o'r cynghorwyr yma dorri eu cysylltiadau a chymdeithas Bêl-droed Cymru a chael eu diarddel neu iddynt ymddiswyddo os mai'r hyn a welwyd yr wythnos diwethaf ydi eu cyfraniad gorau tuag at sicrhau dyfodol llawer mwy cyd weithiol a chyd gytuno yn ddemocrataidd
‘Gorau chwarae - cyd chwarae’ - credwch neu beidio dyma arwyddair y Gymdeithas! Ar hyn o bryd mae’n ymddangos i mi fod pymtheg o fradychwyr y Gymdeithas wedi anghofio ei harwyddair eu hunain.
Hen bryd iddynt fynd a gwneud lle i'w gwell. Ie. I lawr i’r baw a’r balch! Ac i’r un a aeth ati i greu'r helynt yn y lle cyntaf - yna allai wneud dim mwy na dyfynnu Dafydd ap Gwilym - “Bid iddo yn ei law lwyth o faw diawl; ef a’i dylwyth”
Fe ddywedodd Tegla Davies unwaith, nid achub Cymru sydd eisiau, ond gwneud Cymru yn werth i’w achub; sawl cynghorydd sydd yn barod i dderbyn yr her?
Ia wir, rhowch her iddyn nhw Mr Hughes, rhowch her iddyn nhw!!
