Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Beth yw podlediad?
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Daf a Caryl - enwau
mewn lle cyhoeddus - in a public place
calon - heart
f'anwylyd - dearest
agosatrwydd perthynas - the closeness of a relationship
bachigol - diminuative
elfen blentynaidd - childish element
diwedden - ending
crwt - bachgen
melysder - sweetness
cyfarwyddyd - instructions
"Oes ganddoch chi enw bach cariadus sy'n cael ei ddefnyddio yn eich teulu chi, neu gan eich ffrindiau agos? Be tasai rhywun yn galw'r enw hwnnw arnoch chi mewn lle cyhoeddus? Sut fasech chi'n teimlo? Ydy pawb yn cael defnyddio'r enw yna arnoch chi, neu ydy o'n rhywbeth i ffrindiau agos, neu deulu'n unig? Dyma rai o'r cwestiynau oedden ni'n eu holi ar raglen Daf a Caryl ddydd Mawrth yng nghwmni'r awdures Elinor Wyn Reynolds. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Cofio - Deuawd
sylweddoli - to realise
telynegol - lyrical
hyfforddi'r lleisydd - coaching the vocalist
parchus - respectable
gyrfa anhygoel - incredible career
telyn deires - triple harp
arddull - style
ymdopi - to cope
torreth o alwadau - a flood of calls
digalon - trist
"... a na, dw i ddim yn mynd i ddweud wrthych be ydy'r enw arna i yn fy nheulu bach i! 'Sgwn i oedd gan Elin Fflur a’i mam Nest Llywelyn enwau bach teuluol? Wel chaethon ni ddim gwybod hynny yn y sgwrs glywon ni ar Cofio ddydd Sadwrn diwetha, ond mi gaethon ni wybod sut a pham ddechreuodd Nest ganu efo band yn y saithdegau. Sgwrs gafodd ei recordio gynta yn Nwy Fil ac Wyth oedd hon fel rhan o'r rhaglen 'Deuawd'. Mae'r ddwy ohonyn nhw, Elin a'i mam Nest, wedi canu efo bandiau ac wedi ennill y cystadleuaethau Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd. Dyma Nest yn dweud wrth Elin sut dechreuodd hi ganu efo'r band Brân yn y lle cynta..."
Dei Tomos - Y Daran
cyfaredd - fascination
cyfoedion - peers
ymchwil - research
y diwygiad - the (religious) revival
bathwyd - was coined
crefydd - religion
y cyfnod cynhara(f) - the earliest period
byddinoedd - armies
diddymu - to abolish
bwa saeth - bow and arrow
"Iesgob, recordiau Brân werth cannoedd o bunnoedd - dw i'n mynd i chwilio drwy fy hen recordiau y funud 'ma! Dan ni'n mynd i aros efo cysylltiadau teuluol gan eich bod yn mynd i glywed fy nhad i, Arwel Jones o Lanberis yn siarad ar raglen Dei Tomos! Fo ydy llywydd Clwb Pêl-droed Llanberis. Ella bod rhai ohonoch chi wedi bod yn dilyn hanes y clwb ar S4C yn ddiweddar pan fuodd Malcolm Allen yn eu helpu nhw. Ond oeddech chi'n gwybod mai Y Daran ydy'r enw lleol ar y clwb? O le daeth yr enw hwnnw tybed? Dyna ofynnodd Dei Tomos i Arwel Jones ddydd Sul."
Iola Wyn - Winnie
y peth rhyfedda - the strangest thing
mo'yn - eisiau
bord - bwrdd
y cwrdd - the chapel service
mam-gu - nain
beirniadu - to judge
dathliad - celebration
hala - to spend
triniaeth - treatment
blew - hair
"Felly mae'r enw 'Y Daran' yn dod o'r Beibl. Ro'n i'n gwybod bod yna rywbeth arbennig iawn am glwb Pêl-droed Llanberis! Fel y clywon ni mae'r clwb mewn bodolaeth ers Mil Wyth Naw Dau ac felly yn gant dauddeg un oed eleni, da de? Tydy Winnie'r gogyddes, sydd i'w chlywed yn aml ar Radio Cymru, ddim cweit mor hen a hynny, ond mi roedd hi'n dathlu penblwydd arbennig yr wythnos diwetha - yn saithdeg pump oed! Aeth Iola Wyn draw i gael sgwrs efo hi..."
Rhaglen Nia - cas beth
yn gyfyng - constricted
mochdra - mess
bwrw - to hit
llefydd chwech - toilets
ymestyn - to stretch
ysgrifenyddes - secretary
bant a fi - ffwrdd a fi
cyfarwyddiadau - instructions
pwy a ŵyr - who knows
dyfroedd dyfnach - deeper waters
"Winnie yn fan'na 'n swnio'n hanner ei hoedran ynde? Awn ni ychydig bach mwy i'r gorllewin rwan - i Faenclochog yn Sir Benfro, i wrando ar Marilyn Lewis yn sôn am ei chas beth. John Hardy oedd yn ei holi ar raglen Nia Roberts. Roedd hi eisoes wedi dweud wrthon ni mai sŵn y feiolin oedd ei chas sŵn hi, a'i bod yn casau llefydd uchel, ond beth oedd ei chas beth hi tybed?"
