Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Beth yw podlediad?
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Heledd Cynwal - Silff ben tân Carwyn Jones
silff ben tân - mantlepiece
plentyndod - childhood
tad-cu - taid
mam-gu - nain
tu fas - tu allan
heolydd - ffyrdd
pert - del
cyfnod - period
gwirfoddolwyr - volunteers
losin - sweets
"...silff ben tân Prif Weinidog Cymru. Mae Heledd Cynwal yn hoff iawn o fusnesu ar sillfoedd ben tân pobol, a be gwell i nodi rhaglen ola Heledd ond drwy gael cip ar silff ben tân Carwyn Jones ei hun? Wrth gwrs, esgus ydy'r silff ben tân yn aml iawn i gael gwesteion i siarad am bethau pwysig yn eu bywydau, a dyna gaethon ni gan Carwyn Jones. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae ein Prif Weinidog yn siarad am ei blentyndod ym Mrynaman... "
Beti a'i Phobol - Esther Eckley
anaf difrifol - serious injury
digwyddiad - event
isel fy ysbryd - feeling low
o ddifri - seriously
pencampwriaeth - championship
diolchgar - thankful
cosb - punishment
llawdriniaeth - surgery
corfforol - physical
iselder - depression
"Heledd Cynwal yn fan'na yn edrych ar silff ben tân y Prif Weinidog. Roedd o yn Twickenham ddydd Sul yn gweld y gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr. Weloch chi'r gem? Siomedig iawn ynde, i gefnogwyr Cymru beth bynnag. Ar raglen Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha clywon ni gan ferch fuodd yn chwarae i dîm rygbi merched Cymru, cyn iddi hi gael anaf difrifol. Artist ydy Esther Eckley, a hi oedd gwestai Beti George yr wythnos diwethaf. Mi fuodd y ddwy'n sgwrsio am waith celf Esther wrth gwrs, ond dan ni'n mynd i glywed y rhan o'r sgwrs oedd yn edrych yn ôl ar yrfa rygbi Esther, a'i theimladau hi ar ôl iddi hi gael ei hanafu..."
Dewi Llwyd - Dave Brailsford
dathlu - to celebrate
taith - journey
ers talwm - a long time ago
cefnogi - to support
rhannu syniadau - to share ideas
trafod - discussing
medalau aur - gold medals
rheolwr - manager
unigolyn - individual
parhau - to continue
"Dan ni'n mynd i symud rwan o fyd y bêl i fyd seiclo. Yntydy seiclo wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar dwedwch? Dw i'n siwr bod llwyddiant tîm Sky yn y Tour de France, a pherfformiad tîm Prydain yn y gêmau Olympaidd wedi chwarae rhan yn hynny. Ac un dyn sydd wedi bod yng nghanol hyn i gyd ydy Dave Brailsford, hyfforddwr y ddau dîm llwyddiannus hynny. Fo oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul gan fod Dave yn dathlu ei benblwydd yn hanner cant. Mi roedd o wedi dod yn ôl i'r pentref lle cafodd o'i fagu, Deiniolen ger Llanberis, ar gyfer ei benblwydd. Sut roedd o'n mynd i ddathlu tybed?"
Geraint Lloyd - Sian Pierce Roberts
elusen - charity
anialwch - desert
tywod - sand
gwres - heat
dan yr amgylchiadau - under the circumstances
pabell - tent
dw i'n amau - I suspect
tirwedd - terrain
llychlyd - dusty
cyfarwydd - familiar
"David Brailsford yn sôn am sut mae o am seiclo dros pas Llanberis ar ei benblwydd. Os dach chi'n meddwl bod hynny'n anodd, gwrandewch ar y clip nesa 'ma, lle mae Sian Pierce Roberts o Ddwyran, Ynys Môn yn esbonio be sy o'i blaen hi yn y misoedd nesa ma. Buodd hi'n siarad efo Geraint Lloyd wythnos diwetha ac mi gaethon ni glywed am ei chynlluniau i godi arian i'r elusen Sands. Cerdded bydd Sian er mwyn codi'r arian. Be sy mor arbennig am hynny meddech chi? Wel cerdded tywod y Sahara bydd hi, sydd yn addas iawn o gofio mai Sands ydy enw'r elusen. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Dafydd a Caryl - Cân y babis
bydwraig - midwife
cyflyrau - conditions
hwylio - to sail
hwiangerddi - lullabies
dros y lli - across the sea
tonnau - waves
siglo - rocking
cydganu - singing together
wrth y llyw - at the helm
heb siw na miw - without a sound
"Sian, sydd yn fydwraig, yn dweud wrth Geraint Lloyd yn fan'na sut mae hi am godi arian i Sands – elusen sydd yn gweithio efo rhieni babis fuodd farw wrth gael eu geni, neu yn fuan iawn wedyn. Dw i'n siwr basai Sian wedi bod wrth ei bodd efo'r eitem nesa yma - Cân y Babis -yr olaf un, gan fod rhaglen Dafydd a Caryl wedi dod i ben yr wythnos diwetha. Wyddoch chi ein bod ni wedi cyfarch Mil Tri chant Saithdeg Un o fabis yn ystod y blynyddoedd diwetha ma. Pwy gwell i ganu'r gân olaf felly ond babi bach Caryl ei hun - ei merch y gantores Greta Isaac. Mwynhewch..."
