Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Benbaladr - Thessalonika
amgueddfa - museum
poblogaeth Iddewig - Jewish population
pennod dywyll - a dark chapter
carreg sylfaen - foundation stone
anerchiad - speech
tanlinellu - to underline
cyfraniad cymuned Iddewig - the contribution of the jewish community
atgof cyson - a constant reminder
Arlywydd - President
adlewyrchu - to reflect
Stori o Thessalonika yng Ngwlad Groeg. Mae'r newyddiadurwr Geraint Curig newydd ymweld â'r ddinas, ac mi gafodd o sgwrs efo Alun Thomas, ar y rhaglen Benbaladr, am Amgueddfa yr Holocost sy'n cael ei adeiladu yno. Yn ystod y Holocost, cafodd 97% o boblogaeth Iddewig y ddinas eu lladd gan y Natsiaid. Dyma ychydig o hanes y penderfyniad i godi'r amgueddfa.
Beti a'i Phobl - Mike Parker
awdur a darlledwr - author and broadcaster
yn cynnwys - includes
agwedd - attitude
dwy ganrif - two centuries
rhoi'r gorau - to give up
gwely angau - death bed
hyd yn oed - even
yn fy marn i - in my opinion
Hanes codi Amgueddfa yr Holocost yn Thessalonika, ail ddinas fwya Gwlad Groeg, ar y rhaglen Benbaladr. Mae'r awdur a'r darlledwr Mike Parker yn dod o ardal Birmingham yn wreiddiol ond yn byw yng Ngheredigion ers bron i ugain mlynedd. Mae ei lyfrau'n cynnwys Map Addict a Rough Guide to Wales, ac mae o wedi sgwennu llawer am agwedd pobl tuag at Gymru a'r Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd o gyda Beti George.
Aled Hughes - Hello
tarddiad - derivation
marchogaeth - horse riding
ychwanegu - to add
hen gri - an old cry
gwahanol sillafiadau - different spellings
dryswch - confusion
dyfeisydd - inventor
honni - to allege
cyfarchiad - a greeting
cylchrediad - circulation
Yr awdur Mike Parker yn siarad am y Gymraeg gyda Beti George yn fan'na ac awdur arall, Mihangel Morgan, sydd i'w glywed yn y clip nesa. Mae yna sawl fersiwn o 'Helo' i'w glywed ar draws y byd, ond beth ydy tarddiad y gair? Dyma esboniad Mihangel.
Co Bach - A Hard Day's Night
trafferth ofnadwy - terrible problems
noswiath mor fwyn - a mild evening
bant i gysgu - off to sleep
cymeriad - character
yn gysylltiedig - connected
y bêl gron - the round ball (soccer)
sothach - rubbish
plentynaidd - childish
trueni - pity
Hanes y cyfarchiad 'Helo' oedd hwnna gan Mihangel Morgan ar raglen Aled Hughes. Un o'r rhaglenni dan sylw Co Bach, wythnos yma oedd Nefar in Ewrop, rhaglen o ganol yr wythdegau oedd yn cael ei chyflwyno gan Alwyn Samuel. Ar y rhaglen clywon ni Glan Davies, yn dweud pam bod gas ganddo'r gân A Hard Day's Night gan y Beatles.
Bore Cothi - Eiry Miles
adnoddau - resources
yn benodol - specifically
cyfuno - agree
ychydig yn greadigol - a bit creative
trawsnewid - transform
ymwybodol iawn - very aware
cymaint o bobl - so many people
clymu mewn - to tie in
prif ffrwd - mainstream
amgylchiadau gwaith - work circumstances
Hanes Glan Davies a'r gân A Hard days Night oedd hwnna ar y rhaglen Co Bach. Mae Eiry Miles yn gweithio i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac fel rhan o'i gwaith mae hi'n sgwennu cyrsiau newydd i ddysgwyr. Cafodd Shan Cothi air efo hi ar ddiwrnod Shwmae, Su'mae. Dyma Eiry'n esbonio mwy am ei gwaith efo'r Ganolfan.
Sychedig Walia - Bethesda
Amgueddfa Lechi Cymru - National Slate Museum
darparu - to provide
parchusion - respectable people
swm a sylwedd - the sum and substance
hanner coron - half a crown
ail-adrodd - to repeat
dymuno - wishing
go unigrwy - quite unique
blaenoriaid - elders
agwedd deublyg - an ambiguous attitude
Eiry Miles oedd honna, sy'n gweithio i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn sôn am waith y Ganolfan gyda Shan Cothi. Yn ail raglen 'Sychedig Walia' sydd yn edrych ar berthynas y Cymry ag alcohol, cafodd Llion Williams gwmni Dafydd Roberts sy'n gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru. Roedd ganddo ambell i stori ddiddorol iawn am hanes yfed preifat ardal Bethesda dros ganrif yn ôl.
Cynefinoedd Iolo - Amgueddfa Lechi Cymru
cynefinoedd - habitats
chwarelwr - quarryman
Amgueddfa'r Werin - Folk Museum
dodrefnu - to furnish
bradwr - traitor
y diwydiant llechi - the slate industry
dim parch - no respect
cenhedlaeth - generation
cofnod - record
Dan ni'n aros efo Amgueddfa Lechi Cymru yn y clip yma o raglen Cynefinoedd Iolo. Aeth Iolo Williams draw i'r Amgueddfa yn Llanberis yng nghwmni Gareth Roberts, Celfyn Jones a Math Williams. Dyma'n nhw wrth res o dai arbennig iawn sydd i'w gweld yn yr amgueddfa.
Bore Cothi - Emyr Huws Jones
cyfansoddwr - composer
cyhoeddi - to publish
cyfeirio at - refering to
elusen - charity
blêr - untidy
tlodiadd - shabby
diniwed - innocent
llwyddo rhan fwya - mainly succeeding
wyt ti'n hiraethu? - do you miss?
mae'n chwith mynd yn ôl - It's strange going back
Hanes tai Amgueddfa Lechi Cymru, ac ychydig o hanes streic fawr y Penrhyn yn fan'na ar y rhaglen Cynefinoedd Iolo. Bore Mawrth buodd y cyfansoddwr Emyr Huws Jones yn cadw cwmni i Shan Cothi ar ei rhaglen. Mae Emyr newydd gyhoeddi llyfr 'Dyddiau Roc a Rôl' sy'n dweud hanes ei fywyd drwy gyfeirio at eiriau ei ganeuon. Cafodd Emyr ei fagu yn Llangefni ar Ynys Môn a dyma fo'n sôn am ei fagwraeth ar yr ynys.
