Ar ôl gorfoleddu yn sgil llwyddiant Casnewydd i gadw eu lle yn Adran Dau'r Sadwrn diwethaf, daeth gorfoledd eto dros y penwythnos wrth i Abertawe sicrhau eu lle yn yr Uwch gynghrair am y seithfed tymor yn olynol.
Hyn yn sgil eu buddugoliaeth nodedig oddi cartref yn Sunderland, a gweld Hull yn colli oddi cartref i Crystal Palace ar y Sul.
Cymaint yw camp Abertawe, o dan reolaeth Paul Clement, nes i'r rheolwr gael ei enwebu fel un o reolwyr y tymor, yng nghwmni rheolwr Chelsea, Antonio Conte, Mauricio Pochettino o Tottenham, y Cymro Tony Pulis o West Bromwich Albion, Eddie Howe o Bournemouth a Sean Dyche o Burnley.
Beth felly, o ystyried fod Abertawe un ar ddeg pwynt yn is nag unrhyw dim arall ac ar waelod yr uwch gynghrair pan gyrhaeddodd Clement y Liberty ym mis Ionawr?
D’oes dim amheuaeth na rhoi ail enedigaeth i yrfa Leon Britton gan ail drefnu patrwm y chwarae o’i gwmpas oedd un o'r ffactorau allweddol.
I ryw raddau fe orfodwyd Clement i ail ystyried y tactegau gan roi cyfrifoldeb o angori disgyblaeth a chynnig mwy o amrywiaeth y chwarae yn nwylo (neu draed) Britton. Golyga hyn hefyd byddai Jordan Aiyew yn chwarae ymhellach ymlaen gan gynnig cyflymder, a hefyd gefnogaeth gyfrwys i dynnu amddiffynnwr allan o safleoedd cyfforddus, wrth ochr galluoedd rheibus, corfforol Fernando Llorente, sydd gyda'r gefnogaeth iawn, yn gwybod sut mae darganfod cefn y gol.
Ond doedd arweiniad Britton dim wedi eu cyfyngu i'r hyn a oedd yn digwydd ar y cae. Fo oedd yr ysbrydoliaeth, wrth drefnu mwy o weithgareddau a fyddai’n helpu’r chwaraewyr i fondio fel carfan a pwy all anghofio ei gyfraniad i sicrhau ticedi am ddim i sicrhau cefnogaeth gref i'r Elyrch oddi cartref yn Sunderland y Sadwrn diwethaf?
Daeth Clement a sefydlogrwydd i'r amddiffyn hefyd, amddiffyn bregus a oedd yn gollwng goliau fel dŵr drwy golandr, (deunaw mewn chwe gem cyn ei ddyfodiad), ac a welodd pedwar deg pedwar o goliau yn cael eu hildio yn hanner cyntaf y tymor!
Yn wir, doedd yna unrhyw dim, erioed, wedi aros yn yr uwch gynghrair ar ôl gadael cymaint o goliau i mewn yn hanner cyntaf unrhyw dymor a doedd y newidiadau cyson yng nghanol amddiffyn Abertawe wedi gwneud dim i leihau'r diffyg yma, a Bob Bradley, y cyn rheolwr yn ymddangos fel petai'n newid chwaraewyr yn fwy aml nag oedd yn newid ei drôns!
Ond, roedd Alfie Mawson a Federico Fernandez yn y lle iawn ar yr adeg iawn yng ngem gyntaf Clement , ac fe wnaethant ddigon i'w argyhoeddi, yn ei gem gyntaf, mai dyma oedd partneriaeth gorau'r tîm yng nghanol yr amddiffyn.
Felly y bu ac fe gadwodd y ddau eu lle am weddill y tymor gan ildio ond pum gol ar hugain yn y deunaw gem ddilynol.
Gwelliant amlwg o dan y rheolwr newydd, a hefyd ni ildiwyd unrhyw gol o gwbl mewn tair o’r pedair gem olaf.
Yn ogystal, ers cyrhaeddiad Clement, mae gallu’r tîm i amddiffyn yn erbyn ciciau rhydd a chorneli wedi gwella cymaint (dyma un o'r gwendidau a oedd eu gwrthwynebwyr yn eu targedu) nes, ers y trawsnewid, i Abertawe beidio ag ildio unrhyw gol fel yma.
Yna, roedd arwyddo Martin Olsson and Tom Carroll yn dipyn o gamp, a gyda’r ddau yn chwarae eu gem gyntaf i'r Elyrch yn y fuddugoliaeth oddi cartref yn Lerpwl, (dau arall yn y lle iawn ar yr adeg iawn!) roedd goleuni i'w weld tua phen pellaf y twnnel o anobaith yr oedd Bob Bradley a Francisco Guidolin wedi eu harwain iddo rhwng mis Awst ac Ionawr. Dau arall yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Do, fe ddaeth y llwyddiant yn y diwedd, ond rwyf o’r farn hefyd fod yn rhaid i'r perchnogion wneud eu rhan i sicrhau na fydd y clwb yn y sefyllfa yma eto'r tymor nesaf.
Ydynt, maent wedi gwneud camgymeriadau, a dim mwy na chyflogi Bradley fel rheolwr gan anwybyddu Clement 'nol yn yr Hydref, ond fe ddysgwyd gwers, a chyrhaeddodd y Meseia i glirio'r llanast !
Fel Casnewydd, bydd angen trafod ac ystyried yr hyn sydd ei angen i godi a chryfhau a dwi ond yn gobeithio y gall y cefnogwyr hefyd wneud eu rhan. Yn y gorffennol, roedd rhai yn barod i feddwl mai Swansealona (ydych chi'n cofio hynny?) oedd y disgrifiad am batrwm chware’r Elyrch, ond doedd hyn am ddim mwy na'u gallu i gadw meddiant yn ei hanner eu hunain!
Mae doniau a medrau creiddiol y tîm yma, a gallu Paul Clement, yn haeddu gwell ac fe ddylai Abertawe ail afael ar bethau a datblygu i dîm sydd yn llawer, llawer gwell nac un sydd yn cael ei ganmol yn ffôl am ddim mwy na'r gallu i gadw meddiant ar y bel yn eu hanner eu hunain yn y dyfodol.
Siawns na fydd yr haf yn rhoi'r sylfaen i droi hwyaden hyll y gaeaf i ddatblygu’n Alarch balch a phrydferth y tymor nesaf.
Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd i sicrhau dyfodol a gobaith newydd i’r Alarch wen.
