Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Game of Thrones
cyfres - series
chwedloniaeth - mythology
ysbrydoliaeth - inspiration
amlycaf - most prominent
cyferiad - direction
rymoedd hudol - mystical powers
anafu - brifo
datblygu'r gallu - developing the ability
grym - power
cyrff - bodies
...roedd cyfres newydd o Game of Thrones i'w gweld ar y teledu dydd Llun diwetha. Dyma'r gyfres fwya’ poblogaidd erioed yn hanes teledu mae’n debyg. Bore Llun ar raglen Aled Hughes mi fuodd yr awdur a ffan mawr o'r gyfres, Ifan Morgan Jones, yn sôn am pa mor debyg ydy'r gyfres i straeon y Mabinogion...
Môn: Ynys Gwion Lewis - Economi'r ynys
dadboblogi - depopulation
hir dymor - long term
anwybyddu - to ignore
aelod cynulliad - Assembly Member
bygythiad - threat
cyfiawnhau - to justify
ychydig o wirionedd - some truth
lleddfu cydwybod euog - to soothe a guilty conscience
diddanu - to entertain
blaenoriaeth - to prioritise
"Ifan Morgan Jones yn fan'na yn son am Game of Thrones efo Aled Hughes. Yn ail raglen y gyfres Môn: Ynys Gwion Lewis roedd Gwion yn holi ai dyfodol niwclear sydd yna i economi Ynys Môn ac yn trafod dadboblogi hefyd. Dyma Rhun Ap Iorwerth – Aelod Cynulliad Ynys Môn yn dweud pa mor bwysig ydy cael swyddi i bobl ifanc ar yr Ynys..."
Bore Cothi - Cleif Harpood Caneuon Serch
cân serch - love song
ysbrydoli - to inspire
Coedwig ar Dân - A Forest On Fire
fy nharo i - strikes me
ymddangos - appears
y diweddar - the late
cyfansoddi - to compose
cymar - partner(personal)
ymhell dros y môr - far overseas
gwres - warmth
Dyfodol Ynys Môn yn fan'na yn cael ei drafod gan Rhun ap Iorwerth a Gwion Lewis. Oes ganddoch chi hoff gân serch? Mi wnaeth Cleif Harpwood rannu ei ddewis personol o hoff ganeuon serch gyda Shan Cothi bore Mawrth. Un o'r caneuon oedd wedi ysbrydoli Cleif oedd un gan Alun 'Sbardun' Huws fuodd farw ddwy flynedd yn ôl. Buodd Cleif yn canu mewn bandiau efo Sbardun yn y gorffennol. Dyma Cleif yn sôn am ei ddewis ...
Dewch am Dro - Pontardulais
adrodd - to recite
rhagbrawf - prelimanary stage
llwyfan - stage
lan a lawr - up and down
chwydu - to vomit
andros o brysur - prysur iawn
dipyn o brofiad - quite an experience
marsiadiwr - merchant
Iddewon - Jews
grwgnach - to complain
Mae cân hyfryd Alun Sbardun Huws 'Coedwig ar Dân' yn hoff gân i lawer iawn ohonon ni dw i'n siwr. I Bontarddulais aeth Rhys Meirion am dro yn ei gyfres, Dewch Am Dro wythnos diwetha. A dyma fo'n dod ar draws y teulu Miles, sef Ifor a Gwen Miles a’u mab Rhodri. Mae Ifor yn aelod o Gôr Meibion Pontarddulais a Rhodri wrth gwrs yn actor enwog. Dyma Gwen yn sôn am Rhodri ei mab yn dechrau perfformio'n ifanc iawn drwy adrodd mewn eisteddfodau pan oedd o'n blentyn
