Cyn-swyddog yn erlyn Heddlu'r Gogledd dros gŵyn am garwriaeth ei ddyweddi

Mae Andrew Fearon yn hawlio £343,251 mewn iawndal ac am golled enillion
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn erlyn y llu dros y ffordd y cafodd ei gŵyn ei thrin ar ôl i'w ddyweddi gael perthynas â chydweithiwr, ac yn ddiweddarach fe briododd yr uwch-swyddog oedd yn goruchwylio'r ymchwiliad.
Gwahanodd Andrew Fearon â'i ddyweddi, a oedd hefyd yn swyddog heddlu, yn 2017 ar ôl iddi dwyllo arno a chael perthynas â swyddog arall.
Fe gyflwynodd Mr Fearon gŵyn i'r llu.
Mae ei gyn-ddyweddi, Rebecca Hutt, bellach yn briod â'r rheolwr cwynion a oedd yn ymchwilio i gwynion Mr Fearon.
Ond dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y cwpl mewn perthynas tan ymhell ar ôl i'r ymchwiliadau ddod i ben.
Dywedodd cyfreithwyr Mr Fearon wrth lys fod y ffordd y deliodd yr heddlu â'i gwynion wedi ei adael ag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) cymhleth.

Fe wnaeth Rebecca Hutt a Steven Williams ddechrau perthynas yn 2020, flynyddoedd ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben
Clywodd y llys fod Mr Fearon wedi dyweddïo i briodi ei gyd-swyddog Rebecca Hutt.
Ond gwahanodd y ddau yn 2017, bedwar mis cyn eu priodas, ar ôl i Ms Hutt gyfaddef iddi gael "nifer o berthnasau", gan gynnwys un â swyddog heddlu arall.
Yn dilyn hynny cyflwynodd Mr Fearon gŵyn, ond daeth Heddlu Gogledd Cymru i'r casgliad nad oedd achos i'w ateb.
Dywedodd yr heddlu fod yr uwch-swyddog a oruchwyliodd y broses gwyno, y Prif Uwcharolygydd Steven Williams, sydd bellach wedi ymddeol, wedi dechrau perthynas â Ms Hutt yn 2020, flynyddoedd ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben.
Clywodd y llys hefyd ei bod wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus yn 2021 fod Mr Williams a Ms Hutt wedi priodi.
Honni 'PTSD cymhleth'
Yn ystod yr achos, roedd Mr Fearon a'i dîm cyfreithiol yn derbyn nad oedd tystiolaeth fod y ddau mewn perthynas ar adeg yr ymchwiliad.
Honnodd Mr Fearon y dylai Heddlu Gogledd Cymru fod wedi cyfeirio ei gwynion at heddlu allanol - rhywbeth y dywedodd iddo ofyn amdano bedair gwaith yn 2018, ac a dorrodd eu dyletswydd gofal tuag ato.
Wrth roi tystiolaeth ar ran Mr Fearon, dywedodd yr Athro Douglas Turkington fod y penderfyniad hwnnw wedi sbarduno'r PTSD cymhleth.
Mae Mr Fearon yn honni bod ymateb Heddlu Gogledd Cymru i'w gwynion wedi achosi trawma pellach iddo.
Mae'n hawlio £343,251 mewn iawndal ac am golled enillion.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.