Sut i ofalu am dy iechyd meddwl pan wyt ti gartref

Part of Learn & revise

Mae’r ffaith ein bod yn gorfod treulio llai o amser gyda phobl eraill er mwyn atal coronafeirws rhag lledaenu yn golygu newid byd i bawb, ond mae’n bwysig cofio mai dim ond dros dro bydd y mesurau llym hyn mewn grym.

Er mwyn helpu unrhyw un sy’n teimlo’n unig gyda’u meddyliau a’u pryderon ar yr adeg hon, mae BBC Bitesize wedi siarad â Joshua Fletcher, sy’n arbenigydd mewn ymdopi â gorbryder.

Mae ganddo gyngor ar sut i ofalu am ein hiechyd meddwl tra byddwn yn aros gartref yn ystod yr wythnosau, ac o bosibl, y misoedd nesaf. Gwylia’r fideo i glywed ei gyngor [yn Saesneg].

Cyngor gan yr arbenigydd gorbryder, Joshua Fletcher (cynnwys Saesneg)

Tawelwch meddwl

Os wyt ti’n teimlo’n gaeth o ganlyniad i hunan-ynysu, mae’n bosibl mai dy amygdala sydd ar fai, sef rhan o’r ymennydd sy’n ymateb i ofn. Os yw hyn yn digwydd, ceisia dawelu dy feddwl drwy gydnabod dy fod mewn lle diogel.

Meddai Joshua: “Efallai bydd dy fyd di’n teimlo’n llai am gyfnod, felly ceisia sicrhau bod popeth yn dy fyd bach newydd yn dda ac er lles dy iechyd meddwl.

“Mae’n debyg bydd rhaid i ti rannu’r byd hwnnw gyda dy deulu, felly’r peth cyntaf dylet ti ei wneud yw gwneud mwy o ymdrech gyda’r bobl o dy amgylch di, achos os wyt ti’n rhannu lle gyda phobl eraill, mae hynny’n gallu helpu dy les meddwl.”

Awgrymodd Joshua wneud gweithgareddau ar y cyd gyda phobl eraill, er enghraifft coginio (mae e wedi penderfynu ceisio gwneud gwaith crosio), oherwydd mae hyn yn gallu helpu pobl i gael perthynas gryfach ac yn gallu cael gwared o bwysau mewn amgylchedd caeedig.

Byw mewn lle cyfyng

Os oes llawer o bobl yn byw yn yr un lle am gyfnod hir, mae’n debygol iawn y bydd tensiynau yn codi. Os yw hyn yn rhywbeth sy’n dy boeni di, mae gan Joshua gyngor ychwanegol.

“Gwna’n siŵr dy fod yn creu lle o dy amgylch di yn ogystal â chreu ffiniau personol,” meddai.

“Gwna bethau sy’n hwyl, er enghraifft darllen llyfr. Yn sicr, dyna fydda’ i’n ei wneud.”

Mae hi hefyd yn syniad da i gael hyd i ardal fach breifat a gofyn i bobl eraill barchu’r lle hwnnw.

Ychwanegodd Joshua: “Ceisia beidio ag ymgolli yn dy bryderon, oherwydd mae hyn yn sefyllfa dros dro. Ond am fod dy fyd di’n llai, ceisia sicrhau bod y byd hwnnw yn llawn o bethau sy’n codi calon.

Mae’n iawn i deimlo’n bryderus

Os oes gen ti ardd, mae’n bwysig i dreulio amser yno, oherwydd mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n llai caeth. Mae hi hefyd yn bosibl lleihau gorbryder drwy osgoi adroddiadau newyddion am y coronafeirws.

Meddai Joshua: “Bydda’n ymwybodol efallai y byddi di’n fwy sensitif pan mae dy fyd di’n llai.

“Mae hynny’n iawn. Dyna sydd i fod i ddigwydd. Ond bydda’n ymwybodol o hyn. Mae’n iawn i ddweud ‘na’ a pheidio â dangos diddordeb weithiau.”

I grynhoi:

  • Cysura dy hun dy fod mewn lle diogel
  • Ceisia greu perthynas gryfach gyda’r bobl sy’n hunan-ynysu gyda ti, drwy geisio gwneud gweithgareddau gyda nhw
  • Gwna le personol i ti dy hun gan ofyn i bobl eraill barchu’r lle hwnnw
  • Darllena lyfr neu ddechrau hobi newydd
  • Cer i’r ardd os wyt ti’n gallu
  • Mae’n iawn i ddweud ‘na’ a pheidio â chymysgu gydag eraill os nad wyt ti eisiau

Os oes gen ti bryderon am fyw ar wahân yn ystod cyfnod coronafeirws, mae gan BBC Bitesize ragor o erthyglau i dy helpu gyda iechyd a lles.

Bitesize TGAU

Canllawiau adolygu

Bitesize TGAU

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Bitesize CA2 Cymraeg

Fideos a gweithgareddau

Bitesize CA2 Cymraeg